2025 – Blwyddyn dda o godi arian

Bu 2025 yn flwyddyn dda o ran ymdrechion codi arian i’r elusen. Cwbwlhaodd Guto Her ‘Y Dyn Haearn’ yn Tallinn ar Awst yr 22ain mewn ychydig o dan 13 awr a llwyddo i gasglu dros £11,000 i’r gronfa.

  • dyn yn reidio beic
  • dyn mewn ras rhedeg
  • dyn gyda fflag cymru yn gorffen y sialens
  • dyn yn cerdded allan or mor

Yna ym mis Medi bu ymdrech codi arian arall arbennig.

Ar Fedi 13 / 14 bu i 14 o ffrindiau Robin o Brifysgol Loughborough gyflawn ‘Her y Tri Copa’ i gofio amdano, 10 mlynedd ers ei golli. Bu hon yn ymdrech wych a gymrodd 28 awr i’w chyflawni a llwyddo i gyfrannu £4,000 i’r gronfa.

  • screenshot o post facebook
  • grwp o bobl ar ben mynydd
  • grwp o pobl mewn ddillad cerdded

Ymdrech Codi Arian Guto - Guto’s Ironman Challenge

Mae eleni, 2025 yn flwyddyn arwyddocaol i mi a’m teulu. Ym mis Medi mi fydd hi yn ddeng mlynedd ers i mi golli fy mrawd, Robin – ac ym mis Awst mi fyddai Robin wedi dathlu ei benblwydd yn 30.

Nid pawb sydd yn gwybod hyn – ond yn fuan ar ôl colli Robin fe ddaethom o hyd i ‘bucket list’ Robin, ac o dipyn i beth mae fy rhieni a minnau yn eu cyflawni er cof amdano.

I nodi’r flwyddyn yma mi fydda i yn ymgymryd ag un o’r tasgau anoddaf ar y rhestr – cwblhau Ras y Dyn Haearn (Ironman). Ma hyn yn golygu nofio 2.4 milltir, seiclo 112 milltir a rhedeg Marathon (26.2 milltir) i orffen a mi fydda i yn gneud hyn ar Awst 23 yn ‘Ironman Tallinn’.

Dwi wedi bod yn hyfforddi yn galed ers dros 8 mis yn barod – cannoedd o oriau, miloedd o gilometrau, dau anaf, ag un triathlon oedd yn gyfystyr a hanner ‘Ironman’, ‘energy gels’ di-ri ac mae na dipyn o ffordd i fynd eto dros y 7 wythnos nesaf.

Nid ymdrech codi arian sydd yma, ond rhywbeth i Robin ac i gofio amdano – ymdrech ar gyfer y ‘bucket list’. Ond wedi deud hynna, mae’n teimlo fel cyfle rhy dda i’w golli ac yn gyfle i godi ymwybyddiaeth at yr elusen yr yden ni fel teulu wedi sefydlu er cof amdano.

Mae ‘Cofio Robin’ yn cefnogi unigolion sy’n rhagori mewn chwaraeon ar ei siwrne. Tydi’r ystadegau sy’n ymwneud hefo’r hyfforddiant yn ddim go iawn – y rhifau sy’n cyfrif yw fod yr elusen wedi dosbarthu dros £100,000 i dros 110 o unigolion ers ei sefydlu yn 2018.

Os hoffech wybod mwy neu wneud cais am gymorth (os yn gymwys), neu os hoffech gyfrannu yna defnyddiwch y linciau isod:

  • Robin ai frawd Guto Evans yn gwenu
  • Bucket list Robin gyda'r geiriau Complete Ironman hefo sgwar coch o'i gwmpas
  • Guto Evans yn dal banner Cymru wrth iddo rhedeg

Golff

DIWRNOD GOLFF COFIO ROBIN – 24/09/2022

Cafwyd diwrnod anhygoel yn Clwb Golff Abersoch ddydd Sadwrn, Medi 24ain ar gyfer elusen ‘Cofio Robin’. Rhwng y golff, y raffl, ocsiwn a chyfraniadau hael llwyddwyd i gasglu oddeutu £20,000 i’r elusen yma sydd yn cefnogi pobl ifanc o Wynedd a Chonwy i wireddu eu breuddwydion ym myd chwaraeon.

Fe wnaeth 5 noddi’r diwrnod sef Beresford Adams, Hufenfa De Arfon, Spar y Maes, Arglwydd Davies Abersoch a Hawk-eye.

  • eitemau-ocsiwn
  • ocsiwn
  • y-clwb

Y GOLFF

Daeth 120 o olffwyr o bell ag agos i chwarae ar ddiwrnod braf. Dyma ganlyniadau’r Golff :-

Tim 1 Dai Davies, Gary Owen, Steve Angrave
  2 John B. Hughes, Viv Hughes, Steven Williams
  3 Jonathan Griffiths Darren Garrod, Phone Ward
Unigolion 1 Brendan Kennedy
  2 Steven Williams
  3 Gary Owen
Unigolyn dros 70 1 Mike Davies
Agosa at y pin 6 Chez Stanway
  14 Gwyndaf Hughes
  16 Meirion Roberts
  16 Meirion Roberts
Tim Gorau Par 3   John Hughes, Viv Hughes, Steven Williams
Cystadleuaeth Efelychydd Agosa at y pin Robert Parry

Diolch i’r Noddwyr – Spar y Maes, Alan Drosinos Jones (Pro Clwb Golff Abersoch), Williams a Roberts, Gerddi Gwell, D.W. Cummings a Llyn Consulting.

RAFFL

Gan fod cynifer wedi cynnig gwobrau trefnwyd argraffu ticedi raffl gyda pob ticed wedi ei gwerthu cyn diwedd y pnawn yn dod a £2,000 i mewn i’r coffrau. Diolch i’r cyfeillion a theulu fu’n brysur yn gwerthu. Dyma’r enillwyr:-

1 Helen a Rob Thomas £100 (Spar y Maes)
2 Viv Hughes 6 potel o win Laithwaites
3 Glen Pritchard £50 (Williams a Roberts)
4 Ifor a Eirian £25 (Gerddi Gwell)
5 Richard Hughes Potel o Wisgi (Lost Sheep, Abersoch)
6 Sue Aspinall 12 Pêl Golff (Chris Gierc)
7 J.G. Jones Potel o Win

OCSIWN

Doedd na ddim bwriad cynnal ocsiwn ond ar ôl cael cynifer o eitemau fe basiwyd bwrw ymlaen gyda rhyw ddwsin o eitemau ond wrth i’r gair fynd ar led fe ddaeth 26 o eitemau hael i law a llwyddwyd i godi dros £6,500.

Dyma eitemau’r ocsiwn (gyda’r rhoddwr mewn print tywyll) a’r pris roddwyd amdanynt.

Taleb Glyn y Weddw - £80, Taleb Teithio Pwllheli - £720, Crys Rygbi Ospreys (J.B.Hughes) - £60, Taleb Siop Golff Abersoch (Gerwyn Owen) - £80, Ticed Spurs v Man U (Lord Davies, Abersoch) - £500, Hamper Picnic i 4 (Chris Gierc) - £190, 59 Club (Williams a Roberts) - £410 (x2), 3 llun traeth Abersoch (J.B.Hughes) - £100, Golff i 4 Astbury (Mark Gibbins) - £220, Gwersyll Dwyros - £70, Hamper Bwyd a Diod (Hufenfa De Arfon) - £100, Llun Traeth Morfa Nefyn (Lauren Sapseid) - £210, Gwin Domaine des Jeanne (Lord Davies, Abersoch) - £180, Potel Penderyn (Mike a Janet Davies)- £140, Llun gan Sian Alun - £150, Gwin Laithwaites - £115, Print Zoe Lewthwaite - £260, Vest Athletwyr Cymru (Osian Dwyfor Jones) - £120, 12 Potel o Win (Spar y Maes)- £200, Taleb Fresh - £130, Taleb Lost Sheep - £160, Golff i 2 Royal Lytham (Dei Williams) - £310, Crys Criced wedi ei lofnodi (Bwrdd Criced Lloegr a Cymru) - £190, Taleb Gwely a Brecwast Ty Newydd, Aberdaron - £210, 12 Pel Swyddogol Premier League - £120 yr un.

Diolch i bob un am gefnogaeth anhygoel.

 

Robin