Sefydlwyd y gronfa yma yn 2018 i gofio Robin Llyr Evans fu farw yn Wuhan China yn 20 oed.
Cynorthwyo unigolion o dan 25 oed I gyrraedd Rhagoriaeth mewn Chwaraeon - Gwynedd a Conwy
Byw Bywyd i’r Eithaf
I Bwy? - Mae’r gronfa yn agored i unigolion o dan 25 oed sydd wedi byw ers dros 3 mlynedd yng Nghwynedd a / neu Conwy.
Mae’n rhaid i’r unigolyn fod wedi cyrraedd lefel eithriadol o uchel yn ei faes chwaraeon ac yn anelu yn uwch.
Bydd yn rhaid i hyfforddwr / canolwr fod yn barod i gefnogi eich cais.
Ar gyfer beth? - Gall yr arian gael ei roi fel cyfraniad at gostau teithio i ymarferion, hyfforddiant pellach, unrhyw beth sydd yn cyfrannu yn benodol at wella perfformiad yr unigolyn.
Faint? - Bydd yr arian sydd ar gael yn amrywio o £100 i £2,000 i’r unigolion llwyddiannus yn ddibynol ar nifer y ceisiadau ac ansawdd / anghenion y ceisiadau.
Pryd ? - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd y dydd olaf o Fedi yn flynyddol.
Sut i Ymgeisio? - Mae ffurflen i’w llenwi ar lein yma
Ffurflen Gais 2024 (PDF)
Ffurflen Gais 2024 (Word)
Dychweler y ffurflen gais hon at: post@cofiorobin.co.uk
Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn flynyddol.
Dros £16,000 i unigolion ym myd Chwaraeon yn lleol
Ddiwedd Medi oedd dyddiad cau y seithfed rownd o elusen “Cofio Robin” ac eleni fe dderbyniwyd 47 o gesiadau, y nifer mwyaf o geisiadau ers y cychwyn. Roedd y safon yn hynod o uchel gan wneud gwaith anodd iawn i’r Pwyllgor, ond wedi llawer o grafu pen fe gytunwyd i roi cyfraniad i 24 o’r ymgeiswyr – cyfanswm o dros £16,000. mwy
Cymorth i rai yn rhagori ym myd chwaraeon
Mae dilyn eich breuddwyd ym myd chwaraeon yn gallu bod yn gostus tu hwnt, gyda’r holl ymarferion, teithio, cystadlu agati, ond os ydych o dan 25 oed ac yn dod o Wynedd neu Gonwy efallai y gall Cronfa Cofio Robin fod o gymorth.....mwy
Athletwyr ifanc Gwynedd a Chonwy
Ddiwedd Hydref cyfarfu Ymddirideolwyr Cofio Robin i fwrw golwg dros y ceisiadau oedd wedi dod i law ac i ddosbarthu arian i athletwyr ifanc Gwynedd a Chonwy.....mwy
Os oes gennych lun neu atgof yr hoffech ei rannu byddai'r teulu yn ei werthfawrogi yn fawr - post@cofiorobin.co.uk