Ar Fedi 24ain, 2022 bydd yna Ddiwrnod Golff yn cael ei gynnal yng Nghlwb Golff Abersoch i godi arian i’r Ymddiriedolaeth.
Cystadleuaeth agored i aelodau ac ymwelwyr (dynion, merched a cymysg) i chwarae fel unigolion a mewn timau o dri.
Pris : £12.50 (aelodau CGA); £20 (aelodau o glybiau lleol ‘affiliated’); £25 (ymwelwyr)
Cysylltwch gyda’r Pro yn y Clwb i drefnu Ti. – 01758 712 622
Gwobrau : Dros £500 o wobrau i gyd yn cynnwys
Mae’r dyddiad yn arwyddocaol gan y bydd yn saith mlynedd union ers colli Robin.
Gobeithiwn felly am ddiwrnod llwyddiannus o gasglu arian i’r Ymddiriedolaeth sydd yn cefnogi pobl ifanc sy’n llwyddo ym myd chwaraeon a hefyd wrth gwrs “Cofio Robin”
I’r rhai ohonoch sy’n awyddus i fod yn rhan o’r Cofio ond ddim yn chwarae golff gallwch ymuno a nifer ohonom fydd yn cerdded o Bendyffryn i’r Clwb Golff.
Gofynnir am gyfraniad o £5 gan bob un sydd yn cerdded ac os gellwch hefyd gasglu noddwyr er mwyn chwyddo’r coffrau byddai hynny yn wych.